13.04.2026

Digwyddiad: Tân Eiddo yn yr Ardal Forol yn Abertawe

Ddydd Sadwrn, Ebrill 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Port Talbot a Threforys i ddigwyddiad yn yr Ardal Forol yn Abertawe.

Gan Steffan John



Am 7.44yb, ddydd Sadwrn, Ebrill 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Port Talbot a Threforys i ddigwyddiad yn yr Ardal Forol yn Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn fflat ar y llawr gwaelod.  Defnyddiodd y criwiau pedwar set o offer anadlu, pedwar chwistrell olwyn piben a phedwar camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.

Cafodd pawb oedd yn byw yn yr adeilad eu symud, gyda mwg yn effeithio ar rai fflatiau cyfagos. Gadawodd y criwiau am 8.50yb.





Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Os ydych chi'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydyn ni'n cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach yn eich cartref.  Maent yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.  Ewch yma i weld y rhestr lawn o'n Gorsafoedd Tân a'r ardal rydyn ni'n ei gwasanaethu.

Mae'r ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth a oedd yn rhan o'r gwiriadau diogelwch tân yn y cartref ond mae'n cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo. Bydd y pum prif neges ychwanegol yn ymwneud â'r canlynol:

  • Rhoi'r gorau i ysmygu
  • Diogelwch y cartref
  • Atal cwympo
  • Ymwybyddiaeth o sgamiau
  • Mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ymweliad Diogel ac Iach, ewch yma neu ffoniwch 0800 169 1234 os gwelwch yn dda.

Erthygl Flaenorol