14.02.2025

Digwyddiad: Tân Gwair yn Llanddewi Brefi

Ddydd Iau, Chwefror 13eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Tregaron ei galw i ddigwyddiad yn Llanddewi Brefi.

Gan Steffan John



Am 11.43yb ddydd Iau, Chwefror 13eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Tregaron ei galw i ddigwyddiad yn Llanddewi Brefi.

Ymatebodd y criw i dân gwair yn cynnwys 12 ffrynt tân ar draws tua 1,000 hectar o dir.  Roedd y rhan fwyaf o’r ardal yn anhygyrch i’r criw.  Defnyddiodd aelodau’r criw ddrôn i fonitro’r tân a phenderfynwyd nad oedd yn peri risg i unrhyw eiddo na choedwigaeth.

Parhaodd aelodau’r criw i fonitro’r ardal cyn gadael am 4.20yp.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf