28.08.2025

Digwyddiad: Tân Gwair yn Nhymbl Uchaf

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân y Tymbl a Rhydaman i dân gwair yn Nhymbl Uchaf ddydd Llun, Awst 25ain.

Gan Steffan John



Am 1.43yp ddydd Llun, Awst 25ain, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân y Tymbl a Rhydaman i ddigwyddiad yn Nhymbl Uchaf.

Ymatebodd y criwiau i dân gwair ar draws tua dau hectar o eithin, rhedyn, coed a glaswelltir.  Defnyddiodd y criwiau ddwy brif chwistrell, un chwistrell olwyn piben a chwythwyr a churwyr tanau gwyllt i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r ardal.

Gadawodd y criwiau am 7.35yh.



Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf