Lleihau Tanau Bwriadol
Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a all achosi difrod ar raddfa fawr a hyd yn oed marwolaeth.
Gall digwyddiadau o ganlyniad i losgi bwriadol roi pwysau aruthrol ar adnoddau Gwasanaethau Tân ac Achub a gwasanaethau brys eraill, yn ogystal â dargyfeirio adnoddau o argyfyngau eraill, gan o bosibl oedi amseroedd ymateb ar gyfer damweiniau gwirioneddol mewn mannau eraill. Maent hefyd yn peri perygl gwirioneddol i ddiogelwch a bywydau Diffoddwyr Tân oherwydd eu natur anrhagweladwy.
Mae atal a mynd i’r afael â llosgi bwriadol yn flaenoriaeth o bwys i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nid yn unig y mae hyn yn cynnwys ymateb cyflym i ddigwyddiadau ac ymchwiliadau tân, ond hefyd cydweithio’n agos gyda’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, cymunedau a sawl asiantaeth bartner arall i nodi risgiau ac addysgu’r cyhoedd.