Am 2.57yb ddydd Llun, Rhagfyr 16eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Pontardawe, Dyffryn Aman, Rhydaman, Port Talbot, Treforys, Castell-nedd, Abercraf, Glyn-nedd, Gorllewin Abertawe, Llandeilo, Pontarddulais, Caerfyrddin, Y Tymbl a Llanelli, gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) eu galw i ddigwyddiad ar Heol Pontardawe ym Mhontardawe.
Ymatebodd criwiau i dân o fewn adeilad diwydiannol un llawr, yn mesur tua 60 metr wrth 40 metr. Roedd yr adeilad cyfan ar dân. I ddechrau, roedd criwiau yn wynebu tân a oedd yn datblygu’n gyflym ac yn cynnwys unedau storio a nifer o gemegau a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu. Yn sgil yr heriau o ran cael digon o ddŵr i’r safle, cynyddodd criwiau’r digwyddiad yn gyflym i gynnwys deg peiriant pwmpio, offer ysgol trofwrdd, Uned Rheoli Digwyddiadau, pum tancer dŵr, gyda thri ohonynt yn dod o GTADC, criw drôn, Uned Pwmpio Cyfaint Uchel, nifer o swyddogion i gefnogi Rheoli’r Digwyddiad a gwybodaeth deunyddiau peryglus a phartneriaid amlasiantaeth o Heddlu De Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Adran Priffyrdd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Gweithiodd criwiau’n eithriadol o galed y tân yn yr unedau storio cefn rhag amharu ar strwythur y prif adeilad a gwerthfawrogwyd yn fawr gan berchnogion y safle. Daeth y digwyddiad i ben ychydig cyn 3yb ddydd Mawrth, Rhagfyr 17eg.
Nid oedd yna unrhyw gleifion yn y digwyddiad hwn.