11.02.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Adeilad yn Rhydargaeau

Ddydd Llun, Chwefror 10fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llandysul eu galw i ddigwyddiad yn Rhydargaeau.

Gan Steffan John



Am 1.31yb, ddydd Llun, Chwefror 10fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llandysul eu galw i ddigwyddiad yn Rhydargaeau.

Ymatebodd y criwiau i adeilad, a adeiladwyd o ddalennau metel, a oedd ar dân.  Defnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben ac offer bach i ddiffodd y tân.

Ni adroddwyd am unrhyw gleifion.  Dinistriwyd yr adeilad yn llwyr gan y tân.

Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r ardal cyn gadael am 3.32yb.

Lluniau gan Rhodri Evans.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf