24.01.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Cynhwysydd Storio yng Nghastellnewydd Emlyn

Ddydd Gwener, Ionawr 24ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandysul a Chaerfyrddin i dân o fewn cynhwysydd storio yng Nghastell-newydd Emlyn.

Gan Steffan John



Am 11.48yb ddydd Gwener, Ionawr 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandysul a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad yng Nghastell-newydd Emlyn.

Ymatebodd y criwiau i dân yn ymwneud â chynhwysydd storio, a oedd yn mesur tua 40 troedfedd wrth 8 troedfedd.  Cyfyngwyd y tân i eneradur o fewn y cynhwysydd a defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, dwy set o offer anadlu, un camera delweddu thermol ac un ffan awyru pwysedd positif i ddiffodd y tân.

Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r tân cyn gadael am 12.57yp.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf