11.07.2024

Digwyddiad: Tân mewn Eiddo Gwag yn Dyfnant

Nos Fercher, Gorffennaf 10fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe, Gorseinon a Chanol Abertawe eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Dyfnant, Abertawe.

Gan Steffan John



Am 7.24yh nos Fercher, Gorffennaf 10fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Gorllewin Abertawe, Gorseinon a Chanol Abertawe eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Dyfnant, Abertawe.

Fe wnaeth y criwiau ymateb i dân ar y llawr cyntaf ac yn yr atig mewn eiddo gwag gan ddefnyddio un beipen ddŵr jet, un ysgol 13.5 metr, un ysgol saith metr, estyniad ysgol fechan, dau set o offer anadlu a phedwar camera lluniau thermal i ddiffodd y tân. 

Roedd y criwiau’n dal wrthi’n mygu rhai o’r mannau poeth ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd. Roedd Heddlu De Cymru yno hefyd i helpu i reoli’r traffig gan fod un ochr o’r ffordd ar gau yn ystod y digwyddiad.

Gadawodd y criwiau am 10.29yh.

Lleihau Tanau Bwriadol

Credir bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.

Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ddifrifol sy’n gallu achosi difrod enfawr a hyd yn oed arwain at golli bywydau. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nifer o raglenni i atal cynnau tân a lleihau achosion o danau bwriadol er mwyn gwarchod y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

I wybod mwy ac i wneud cais am un o’n rhaglenni ewch yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf