Am 12.21yp ddydd Llun, Tachwedd 11eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Crucywel, gyda chymorth criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ei alw i ddigwyddiad ar y Stryd Fawr yng Nghrucywel.
Ymatebodd criwiau i dân ar lawr cyntaf adeilad masnachol deulawr oedd yn mesur tua 10metr wrth 10metr. Defnyddiodd y criwiau pedair set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, un brif chwistrell, camerâu delweddu thermol, offer torri ac un ffan awyru i ddiffodd y tân. Gwiriwyd pob llawr o’r adeilad am fannau poeth gan griwiau a gwnaeth Diffoddwyr Tân dosbarthu gwybodaeth diogelwch tân i eiddo cyfagos.
Gadawodd y criwiau am 2.41yp.