03.04.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo ym Mridell

Ddydd Mercher, Ebrill 2ail, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Crymych, Aberdaugleddau, Castellnewydd Emlyn a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ym Mridell.

Gan Steffan John



Am 6.03yb, ddydd Mercher, Ebrill 2ail, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Crymych, Aberdaugleddau, Castellnewydd Emlyn a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad ym Mridell.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar do ac atig eiddo domestig trillawr.  Defnyddiodd y criwiau dair chwistrell olwyn piben, dair piben 70 metr o hyd, un peiriant ysgol trofwrdd, un ysgol estyniad byr, chwe set o gyfarpar anadlu ac offer bach i ddiffodd y tân.

Roedd pob person wedi’u cyfrif amdanynt.  Achoswyd difrod i do ac atig yr eiddo.

Gadawodd y criwiau am 12.47yp.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf