11.07.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo yn Hwlffordd – Atgoffâd Diogelwch Ysmygu

Ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Hwlffordd i dân mewn eiddo, a achoswyd gan ddeunyddiau ysmygu a daflwyd, yng Nghilgant Fleming yn Hwlffordd ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed.

Gan Steffan John



Ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Hwlffordd i dân mewn eiddo, a achoswyd gan ddeunyddiau ysmygu a daflwyd, yng Nghilgant Fleming yn Hwlffordd ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed.

Am 5.11yp ddydd Mercher, Gorffennaf 9fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberdaugleddau a Hwlffordd i ddigwyddiad yng Nghilgant Fleming yn Hwlffordd.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn bloc tri llawr o fflatiau, yn mesur tua 20 metr wrth 8 metr. Cyfyngwyd y tân i ardal gymunedol yr eiddo ar y llawr cyntaf.

Roedd pob un o'r preswylwyr wedi gadael yr eiddo cyn i'r criwiau gyrraedd. Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un gwyntyll awyru pwysedd positif, un ysgol driphlyg ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân.

Ar ôl diffodd y tân, rhoddodd Diffoddwyr Tân gyngor a gwybodaeth diogelwch tân i ddeiliaid yr eiddo yn ogystal ag i eiddo cyfagos. Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 6.39pm.



Rhybudd Diogelwch Rhag Tân

Achoswyd y tân hwn gan ddeunyddiau ysmygu a daflwyd yn ardal gwaredu gwastraff yr eiddo, mae'r lluniau atodedig yn dangos canlyniad y tân.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi nodyn atgoffa diogelwch tân i gymryd gofal arbennig wrth waredu deunyddiau ysmygu. Yn ffodus, nid oedd unrhyw anafiadau yn y digwyddiad hwn. Tra bod difrod wedi'i achosi i'r eiddo, gallai'r canlyniad fod wedi bod yn waeth o lawer.

Mae sigaréts, matsys ac eitemau ysmygu eraill sy'n cael eu taflu'n amhriodol yn parhau i fod yn brif achos tanau preswyl. Os ydych chi neu rywun arall yn eich cartref yn ysmygu, gall y camau syml canlynol atal tân rhag digwydd yn eich cartref:

  • Gofalwch fod eich sigarét wedi'i diffodd yn llwyr. Diffoddwch hi yn llwyr!
  • Peidiwch â gwagio eich blwch llwch i mewn i fin oherwydd gall hyn achosi i'r bin fynd ar dân.  Bydd diferyn o ddŵr yn y blwch llwch yn helpu i'w wneud yn ddiogel, yna gadewch iddo oeri'n llwyr.
  • Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs, na phibau sydd ynghynn heb neb i gadw llygad arnynt – gallant ddisgyn yn hawdd wrth iddynt losgi 
  • Gosodwch larwm mwg a'i gynnal a chadw – gall larwm mwg sy’n gweithio brynu amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999. Gallwch gael larwm mwg deng mlynedd am tua’r un pris â dau becyn o sigaréts.





Erthygl Flaenorol