Am 10.06yp ddydd Llun, Rhagfyr 9fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Y Tymbl, Treforys, Gorseinon a Chydweli eu galw i ddigwyddiad ar Stryd yr Orsaf yn Llanelli.
Ymateb criwiau i dân o fewn adeilad canol teras trillawr. Roedd pob person allan o’r adeilad ac roedd y tân yng ngofod atig yr adeilad. Defnyddiodd criwiau bedair set o offer anadlu, un chwistrell piben, camerâu delweddu thermol a pheiriant ysgol trofwrdd ar gyfer golau a sganio thermol i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, parhaodd criwiau i huddo’r tân a monitro ar gyfer lledaeniad tân.
Gadawodd y criwiau am 12.23yb ddydd Mawrth, Rhagfyr 10fed.