25.04.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Hen Gapel ym Mhort Talbot

Ddydd Iau, Ebrill 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Port Talbot, Treforys a Chastell-nedd eu galw i ddigwyddiad yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bethany ar Heol yr Orsaf ym Mhort Talbot.

Gan Steffan John



Am 6.49yh, ddydd Iau, Ebrill 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Port Talbot, Treforys a Chastell-nedd eu galw i ddigwyddiad yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bethany ar Heol yr Orsaf ym Mhort Talbot.

Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymatebodd criwiau i dân yn yr hen gapel, a oedd yn mesur tua 30 metr wrth 15 metr. Defnyddiodd y criwiau chwe jet dŵr ac un peiriant ysgol trofwrdd fel tŵr dŵr i ddiffodd y tân.

Parhaodd y criwiau i fonitro a diffodd y mannau poeth oedd ar ôl i oriau mân y bore dydd Gwener, Ebrill 25ain.  Cafodd yr adeilad ei ddifrodi'n ddifrifol gan y tân.

Lluniau gan Michael Jones a'r Rheolwr Gorsaf Spencer Lewis.







Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf