Am 12.12yp, ddydd Gwener, Hydref 3ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Caerfyrddin, Tregaron, y Tymbl, Aberystwyth ac Aberaeron i ddigwyddiad yn hen adeilad Ysgol Highmead yn Rhyddlan, ger Llanybydder.
Ymatebodd y criwiau i dân o fewn adeilad unllawr, a ddefnyddiwyd gynt fel campfa a phwll nofio. Bu’r criwiau yn rheoli’r tân a’i atal rhag lledu i brif adeilad yr ysgol. Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu, pedwar chwistrell olwyn piben, un argae pwmpiadwy, pibellau dosbarthu a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân. Cafodd y tân ei dal i’r adeilad lle dechreuodd.
Ategwyd gwaith y criwiau gan bresenoldeb y tancer dŵr o Orsaf Dân y Tymbl, sy’n darparu mynediad ar unwaith at 9,000 litr o ddŵr diffodd y tân, a’r teclyn ysgol trofwrdd o Orsaf Dân Aberystwyth, sy’n caniatáu diffodd tân o safle uchel yn ogystal â llwyfan ar gyfer gwell ymwybyddiaeth o’r sefyllfa.
Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i fonitro a lleihau'r mannau poeth oedd ar ôl. Ail-archwiliwyd y lleoliad y bore canlynol heb unrhyw arwyddion o ledaeniad tân pellach wedi'u canfod.