Am 7.13pm ddydd Sul, 6 Mai, cafodd criwiau Gorllewin Abertawe, Canol Abertawe, Treforys, Port Talbot, Gorseinon, Castell-nedd, Pontardawe, Pontarddulais a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad ar New Cut Road yng nghanol dinas Abertawe.
Ymatebodd criwiau i dân a gadarnhawyd yng nghyntedd llawr gwaelod bloc llety myfyrwyr. Bu’n rhaid i’r criwiau cychwynnol wynebu sefyllfa hynod gymhleth gan fod dros 100 o bobl wedi gwacáu'r adeiladau a chadarnhawyd bod tân yn o leiaf un o'r fflatiau myfyrwyr. Rheolwyd y digwyddiad yn effeithiol a derbyniwyd gwybodaeth yn gyflym ynghylch lle roedd angen achub pobl o gefn y safle.
Achubwyd tri pherson i gyd trwy ffenestri llawr gwaelod gan aelodau'r criw, gyda phedwar o bobl wedi’u hachub cyn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd. Roedd rhai unigolion yn dioddef o effeithiau anadlu mwg a mân anafiadau ac aethant i'r ysbyty.
Roedd angen ymateb amlasiantaeth i’r digwyddiad hwn gyda Heddlu De Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol, yn ogystal ag Uned Rheoli Digwyddiad y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Gadawodd y criwiau y lleoliad am 9.02pm.