13.08.2024

Digwyddiad: Tân mewn Pabell Trelar yn Llandysul

Ddydd Mawrth, Awst 13eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Ceinewydd ac Aberaeron eu galw i ddigwyddiad yn Cross Inn yn Llandysul.

Gan Steffan John



Am 5.12yb ddydd Mawrth, Awst 13eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Ceinewydd ac Aberaeron eu galw i ddigwyddiad yn Cross Inn yn Llandysul.

Ymatebodd criwiau i un babell trelar a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd, roedd y tân hefyd yn cynnwys un silindr nwy.  Defnyddiodd criwiau un bibell jet, un camera delweddu thermol, un bachyn ac offer bach i ddiffodd y tân.  Roedd pum preswylydd y babell, ynghyd ag un ci, i gyd yn ddiogel ac wedi derbyn therapi ocsigen.  Cafodd y babell ei ddinistrio’n llwyr gan y tân.

Cafodd y tân ei ddechrau’n ddamweiniol, gadawodd y criwiau am 6.39yb.





A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf