05.12.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Tŷ yn Nhalyllychau

Ddydd Mercher, Rhagfyr 4ydd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanbedr Pont Steffan, Rhydaman, Dyffryn Aman, Treforys a'r Tymbl eu galw i dân mewn tŷ yn Nhalyllychau.

Gan Steffan John



Am 3.05yp ddydd Mercher, Rhagfyr 4ydd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanbedr Pont Steffan, Rhydaman, Dyffryn Aman, Treforys a'r Tymbl eu galw i ddigwyddiad yn Nhalyllychau.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn tŷ pâr deulawr.  Defnyddiodd y criwiau tair chwistrell piben, tair chwistrell, chwe set o offer anadlu a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Defnyddiwyd un peiriant ysgol trofwrdd ac un tancer dŵr i sefydlu system gwennol dŵr.  Cafodd yr eiddo ei ddinistrio’n llwyr gan dân, fe wnaeth criwiau atal y tân rhag lledaenu.

Gadawodd criwiau am 8.25yp.

Diogelwch Tân yn y Cartref

Mae cael dealltwriaeth dda o ddiogelwch tân yn y cartref yn bwysig i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel, i atal tanau a sicrhau eich bod yn gwybod sut i ymateb yn gyflym mewn argyfwng.

GWYBODAETH DIOGELWCH Y CARTREF


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf