12.06.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Ysgubor yn Abergwili

Ddydd Mercher, Mehefin 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Cydweli, Port Talbot a Llandysul i ddigwyddiad yn Abergwili, Caerfyrddin.

Gan Steffan John



Am 1.32yp ddydd Mercher, Mehefin 11eg, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Cydweli, Port Talbot a Llandysul i ddigwyddiad yn Abergwili, Caerfyrddin.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un ysgubor, yn mesur tua 50 metr wrth 20 metr, yn cynnwys byrnau a pheiriannau.  Ar anterth y digwyddiad, roedd tua 27 tunnell o fyrnau ar dân.  Sefydlwyd system gwennol ddŵr gan ddefnyddio tancer dŵr.

Cytunwyd cynllun i dynnu’r byrnau o’r ysgubor gyda’r ffermwr.  Cafodd y byrnau eu tynnu o’r ysgubor a’u diffodd gan griwiau y tu allan.  Defnyddiodd y criwiau bedwar chwistrell olwyn piben, dwy bibell 45ml, un tancer dŵr, offer bach a pheiriant telesgopig y ffarmwr i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau am 11.20yh.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf