04.07.2025

Digwyddiad: Tân Ysgubor yn Llandeilo

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Llandeilo, Rhydaman a'r Tymbl i dân ysgubor yn Llandeilo ddydd Iau, Gorffennaf 3ydd.

Gan Steffan John



Am 8.12yh nos Iau, Gorffennaf 3ydd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandeilo, Rhydaman a’r Tymbl eu galw i ddigwyddiad yn Ffairfach yn Llandeilo.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un cerbyd amaethyddol ac un ysgubor fach a ddefnyddir i storio gwair.  Fe wnaeth y criwiau ddiffodd y tân gan ddefnyddio un set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, anadlyddion ac offer bach.  Cynorthwyodd perchennog yr eiddo’r criwiau gan ddefnyddio cloddiwr bac hi wasgaru’r gair o’r ysgubor i’w wlychu.

Dinistriwyd y cerbyd gan y tân a difrodwyd yr ysgubor yn sylweddol, achoswyd difrod gwres i stablau cyfagos.  Gadawodd y criwiau am 10.53yh.




Mae cyfran fawr o Ardal Gwasanaeth 12,000 cilomedr sgwâr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn gartref i amrywiaeth o gymunedau gwledig ac amaethyddol, gyda llawer o'n Gorsafoedd Tân wedi'u lleoli yn y pentrefi a'r trefi hyn.

Er mwyn amddiffyn y cymunedau hyn yn y ffordd orau, rydym yn falch o allu manteisio ar adnodd amhrisiadwy ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad, y mae llawer ohonynt yn cael eu cyflogi'n bennaf yn y sector amaethyddol.

Gan gydnabod treftadaeth ffermio gyfoethog Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae gan GTACGC Wasanaeth Cyswllt Fferm sy'n gweithio gyda ffermwyr i amddiffyn eu heiddo a'u da byw rhag bygythiad tân yn y ffordd orau.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol