10.03.2025

Digwyddiad: Tân Ysgubor yng Nghroesoswallt

Ddydd Sadwrn, Mawrth 8fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanfair Caereinion i dân ysgubor ger Pen-y-Bont yng Nghroesoswallt.

Gan Steffan John



Am 3.08yp, ddydd Sadwrn, Mawrth 8fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanfair Caereinion eu galw i ddigwyddiad ger Pen-y-Bont yng Nghroesoswallt.

Wedi’i chefnogi gan griw o Wasanaeth Tân ac Achub Sir Amwythig, ymatebodd y criwiau i un ysgubor ar wahân, yn mesur tua 20 metr wrth 12 metr, gyda’r ysgubor gyfan ar dân.

Defnyddiodd y criwiau dwy chwistrell olwyn piben, tair prif chwistrell, un monitor daear, un camera delweddu thermol a thri phwmp ysgafn cludadwy i dynnu dŵr o afon gyfagos i ddiffodd y tân.

Dinistriwyd yr ysgubor, a oedd yn cynnwys tua 60 tunnell o wair a gwellt, yn llwyr gan y tân.  Credir fod y tân wedi’i gynnau’n ddamweiniol.

Parhaodd y lleoliad i gael ei fonitro am sawl awr nes i’r criwiau olaf adael am 9.39yb ddydd Sul, Mawrth 9fed.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf