29.07.2025

Digwyddiad: Tân Ysgubor yng Nghwmifor

Ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Caerfyrddin, Port Talbot a Llanbedr Pont Steffan i dân ysgubor yng Nghwmifor ddydd Llun, Gorffennaf 28ain.

Gan Steffan John



Am 7.17yb ddydd Llun, Gorffennaf 28ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Caerfyrddin, Port Talbot a Llanbedr Pont Steffan eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmifor yn Llandeilo.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un ysgubor a sawl a nifer o fyrnau gwair a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd.  Cafodd y byrnau eu symud o’r ysgubor gan ddefnyddio peiriannau fferm a’u gwasgaru er mwyn i’r criwiau diffodd y tân.  Defnyddiodd y criwiau bedwar chwistrell olwyn piben, dau brif chwistrell, dau gamera delweddu thermol ac offer bach i ddiffodd y tân. 

Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 11.34yb, gyda'r criw o Orsaf Dân Rhydaman yn ail-ymweld â'r cyfeiriad tua 4yp i fonitro a huddo unrhyw fannau poeth a oedd ar ôl.



Profi Tymheredd Byrnau Am Ddim

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig profion tymheredd a chynnwys lleithder am ddim ar gyfer byrnau, yn ogystal ag amrywiaeth o ffyrdd eraill i'ch cadw chi a'ch fferm yn ddiogel rhag tân.

Yn dibynnu ar y darlleniadau a dderbyniwn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risg o hylosgiad digymell.

I archebu profiad tymheredd byrnau am ddim, cysylltwch â'n Swyddog Cyswllt Fferm ar 0800 169 1234 neu e-bostiwch farmsliaisonofficer@mawwfire.gov.uk.

Os yw'r byrnau yn mudlosgi neu ar dân, ffoniwch 999.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Diogelwch Rhag Tân Fferm Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gael yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf