10.05.2024

Diweddariad Perfformiad Ailgylchu Dillad Elusen y Diffoddwyr Tân 2023-24

Ar draws y Deyrnas Unedig cododd Ailgylchu Dillad Elusen y Diffoddwyr Tân ychydig dros £956,000, gan gasglu dros 4,700 tunnell o ddillad a’u hailddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.

Gan Rachel Kestin



Ar draws y Deyrnas Unedig cododd Ailgylchu Dillad Elusen y Diffoddwyr Tân ychydig dros £956,000, gan gasglu dros 4,700 tunnell o ddillad a’u hailddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn gyfrifol am £42,955 o'r ffigwr hwn gyda chyfanswm pwysau o 208,882kg, sy'n eithaf trawiadol!

Mae pob ceiniog sy’n cael ei chodi drwy roddion dillad yn helpu Elusen y Diffoddwyr Tân i barhau â'u gwaith yn cefnogi pob aelod o gymuned gwasanaethau tân y DU sy'n gwasanaethu/wedi ymddeol a'u teuluoedd.

Mae banciau dillad Elusen y Diffoddwyr Tân yn derbyn rhoddion drwy gydol y flwyddyn ac mae pob rhodd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.  Gellir dod o hyd i fanciau dillad Elusen y Diffoddwyr Tân mewn llawer o'n gorsafoedd tân, safleoedd cymunedol ac archfarchnadoedd, ac mae logo’r Elusen arnynt. 

Bwriadu clirio wrth i ni nesáu at yr Haf? Dewch o hyd i'ch banc dillad agosaf a pha fath o decstilau sy'n cael eu derbyn yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf