20.03.2025

Diwrnod Agored Dronau

Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau Tîm Dronau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) drefnu Diwrnod Agored Dronau ar gyfer personél y Gwasanaeth ym Mhencadlys y Gwasanaeth.

Gan Lily Evans


Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau Tîm Dronau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) drefnu Diwrnod Agored Dronau ar gyfer personél y Gwasanaeth ym Mhencadlys y Gwasanaeth.

Yn y sesiwn, daeth staff Gweithredol ac Anweithredol ynghyd i ddysgu am y dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi gwaith ymateb, atal, ac amddiffyn ar yr ochr weithredol.

Roedd y diwrnod yn cyd-fynd â themâu gweithredol penodol, ac yn canolbwyntio arnynt:



Rheoli Digwyddiadau

Roedd yr elfen Rheoli Digwyddiadau yn canolbwyntio ar fuddion defnyddio technoleg dronau i wella ymwybyddiaeth sefyllfaol. Gellir defnyddio amrywiaeth o ddronau, rhai ar dennyn a rhai heb dennyn, i ffrydio delweddau byw o ddigwyddiadau gweithredol wrth iddynt ddatblygu. Yna, gall y delweddau hyn gael eu dangos ar ein Huned Rheoli Digwyddiadau (ICU) er mwyn rhoi gwybodaeth gywir yn sesiynau briffio GTACGC a rhai amlasiantaethol.



Tanau Gwyllt

Mae gan y Gwasanaeth gyfres o offer a all gynorthwyo gydag atal ac ymateb i danau gwyllt. Gall technoleg dronau gael ei defnyddio i chwilio ardal eang gan ddefnyddio camerâu thermol ac optegol i ganfod union leoliad tanau. Gall defnyddio gwell ymwybyddiaeth sefyllfaol fel hyn helpu rheolwyr digwyddiadau i lunio cynllun cyn gorfod ymrwymo adnoddau pellach.



Rhagchwilio

Ar hyn o bryd, mae gan y Gwasanaeth ddrôn sy’n gallu hedfan o fewn adeiladau, cerbydau, a mannau cyfyng. Mae hyn yn caniatáu i reolwr digwyddiadau ddiogelu diffoddwyr tân i’r graddau mwyaf posibl drwy ddefnyddio’r dechnoleg i archwilio ardaloedd risg uchel. Gall technoleg dronau gael ei gwella fel eu bod yn cario offer arbenigol hefyd, fel offer monitro nwy.



Bu sawl arddangosiad ymarferol drwy gydol y dydd, a digonedd o gyfleoedd i drafod. Roedd yn llwyddiant mawr, ac roedd hi wir yn fuddiol cael gweld y datblygiadau technolegol hyn.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf