02.08.2024

Diwrnod Diogelwch Bro’r Sgydau

Ddydd Iau, 1 Awst, ymunodd criwiau o Orsaf Dân Glyn-nedd gyda Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Thîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau ar gyfer Diwrnod Diogelwch Dŵr yn ardal Sgydau Glyn-nedd.

Gan Lily Evans

Gyda’r gwyliau haf bellach yn eu hanterth a’r haul yn disgleirio o'r diwedd, mae'r rhaeadrau yn yr ardal hon yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Gall damweiniau yn y dŵr ddigwydd i unrhyw un waeth pa mor brofiadol ydyn nhw. Gall hyd yn oed y rhai sydd wedi paratoi'n dda fynd i drafferthion pan fyddant yn y dŵr. Felly mae gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng yn hanfodol.

Roedd y digwyddiad aml-asiantaeth hwn yn gyfle gwych i aelodau'r cyhoedd weld dangosiadau o achub o ddŵr yn ogystal â chael rhywfaint o wybodaeth am ddiogelwch a siarad â'r Gwasanaethau oedd yn rhan o’r diwrnod.

Parchwch y dŵr bob amser, waeth pa mor heini ydych chi!

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf