21.11.2025

Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2025

Ddydd Iau, 20 Tachwedd, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddigwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli.

Gan Emma Dyer


Ddydd Iau, 20 Tachwedd, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddigwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli.

Roedd y diwrnod yn canolbwyntio ar greu lle i gynnal sgyrsiau agored a gonest ynghylch iechyd dynion, lles meddyliol a phwysigrwydd cefnogi pob agwedd ar les dynion – o fewn a thu allan i'r gweithle.

Fe wnaeth Steven a Shane o’n Tîm Ffitrwydd gynnal sesiwn ddifyr am iechyd a ffitrwydd, gan siarad am sawl pwnc gan gynnwys iechyd cyffredinol, hobïau, rheoli amser, ac rheoli disgwyliadau.

Roeddem hefyd yn falch iawn o gael croesawu dau siaradwr allanol: Yr hyfforddwr meddylfryd rhyngwladol Mick Stott a'r teithiwr a'r siaradwr arobryn Charlie Walker.

Mae gan Mick ddegawdau o brofiad gyda'r lluoedd arfog ac o hyfforddi perfformiad ar y lefel uchaf. Roedd ei weithdy yn cynnwys trafodaeth agored a sesiwn holi ac ateb a oedd yn trafod iechyd meddwl, trawma ac atal hunanladdiad, gan gynnig dulliau ymarferol i adeiladu gwytnwch.

Yn y prynhawn, tro Charlie oedd hi i gamu ar y llwyfan i rannu straeon pwerus o'i deithiau i bedwar ban byd. Roedd ei sgwrs yn tynnu sylw at yr heriau iechyd meddwl y mae o ei hun wedi’u hwynebu, ac yn cynnig dealltwriaeth werthfawr ar geisio cymorth a goresgyn heriau.







Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac yn gyfle ystyrlon i gydweithwyr gymryd rhan mewn trafodaeth agored, i fyfyrio ar brofiadau cyffredin, ac i atgyfnerthu pa mor bwysig yw cefnogi lles dynion ar draws y gwasanaeth.

Diolch yn fawr i'n siaradwyr gwadd am eu cyfraniadau ysbrydoledig, ac i Westy'r Diplomat am gynnal y digwyddiad.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf