08.04.2024

Dull Newydd wedi'i Gynllunio ar gyfer Ymateb i Alwadau Larymau Tân Awtomatig

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTAGC) yn gweithredu dull newydd o ymateb i alwadau Larymau Tân Awtomatig (LTA), o 1 Gorffennaf, 2024. 

Gan Lily Evans



Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTAGC) yn gweithredu dull newydd o ymateb i alwadau Larymau Tân Awtomatig (LTA), o 1 Gorffennaf, 2024.

Nod y fenter strategol hon yw sicrhau'r dyraniad adnoddau gorau posibl, lleihau aflonyddwch diangen, a gwella effeithlonrwydd cyffredinol yn ein hymateb brys.

Mae Larymau Tân Awtomatig (LTA) wedi'u cynllunio i ganfod presenoldeb mwg neu fflamau a rhybuddio unigolion am beryglon tân posibl. Ond, mae ystadegau'n dangos bod mwyafrif y signalau o'r systemau hyn mewn gwirionedd yn alwadau ffug, sy’n aml yn deillio o fwg coginio, llwch neu ddiffyg cynnal a chadw.

O ganlyniad i hyn, o 1 Gorffennaf, ni fydd GTAGC yn ymateb i alwadau LTA mwyach, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol gan gynnwys safleoedd preswyl, cartrefi nyrsio a gofal, a safleoedd sy’n destun hysbysiadau gwahardd neu orfodi diogelwch tân.

Dywedodd y Pennaeth Risg Corfforaethol a Rheolwr Ardal, Peter Greenslade:

"Fel Gwasanaeth rydym yn mynychu mwy na 2000 o alwadau o larymau mewn adeiladau masnachol bob blwyddyn gyda dros 99% o'r galwadau hyn yn alwadau ffug. Mae hyn yn amharu ar y gwaith diogelwch cymunedol y gall y Gwasanaeth ei gyflawni, hyfforddiant gweithredol i griwiau ac yn achosi risgiau diangen yn amgylcheddol ac ar y ffyrdd. Aeth yn ei flaen i ddweud: "Mae'n bwysig bod safleoedd masnachol yn cymryd perchnogaeth o alwadau ffug o larymau tân o fewn eu heiddo yn unol â’u dyletswydd ddeddfwriaethol. Byddwn wrth gwrs bob amser yn ymateb i alwadau 999 pan fydd pobl wedi sylweddoli bod tân."



Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau’r cyhoedd o ymrwymiad diwyro'r Gwasanaeth i ymateb brys a diogelwch cymunedol, gyda'r dull newydd hwn wedi'i gynllunio er mwyn gwella darpariaeth gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Gwyliwch yr animeiddiad byr hwn yn esbonio pam mae hyn yn digwydd a sut y bydd yn gwella'r gwasanaeth.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'n gwefan www.tancgc.gov.uk neu cysylltwch â Fireprotection@mawwfire.gov.uk

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf