Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Eisteddfod yr Urdd a gafodd ei chynnal ym Meifod ym Mhowys eleni rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.
Gŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd sy'n llawn cerddoriaeth, llenyddiaeth a chelfyddydau perfformio ac mae’n cael ei threfnu gan Urdd Gobaith Cymru.
Mae’n un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ac eleni croesawodd y digwyddiad filoedd o blant, pobl ifanc a theuluoedd o bob rhan o Gymru i Feifod ym Mhowys. Yn ddiddorol, dyma’r tro cyntaf ers 1988 i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yn Sir Drefaldwyn, felly roedd disgwyl y byddai dros 90,000 yn ymweld â’r ŵyl.
Roedd ein Tîm Diogelwch Cymunedol wedi ei leoli ar stondin ger mynedfa’r Eisteddfod gan gynnig cyngor a gwybodaeth diogelwch rhad ac am ddim i’r cyhoedd yn ogystal â’r cyfle iddyn nhw gofrestru ar gyfer archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim.
Roedd digon o weithgareddau hwyliog i blant eu gwneud, gan gynnwys rhoi cynnig ar wisgo cit diffoddwyr tân a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth ‘chwilio am y peryglon’ i geisio ennill set diffoddwyr tân Lego. Daeth Sbarc, masgot y Gwasanaeth i’r Eisteddfod i gynnig cyngor diogelwch ac roedd cyfleoedd gwych i dynnu lluniau gydag aelodau’r cyhoedd.
Hyd yn oed gyda chymylau llwyd uwchben ac amodau mwdlyd, roedd hi’n wythnos lwyddiannus gydag awyrgylch bywiog o’r dechrau i’r diwedd.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr ŵyl ac rydyn ni’n edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Margam, Castell-nedd Port Talbot!