Anwyn Sheers ddaeth i’r brig, a’r wobr iddi hi a’i dosbarth oedd ymweld â gorsaf Aberhonddu. Cafodd y plant gwrdd â’r criw a gweld y peiriannau. Cawsant flas ar fod yn ddiffoddwyr tân hefyd, yn chwistrellu dŵr ar danau esgus ac yn helpu gydag ymarfer achub o ddŵr, a chafwyd ras hefyd i weld pwy oedd yn gallu gwisgo cit tân gyflymaf, diffoddwr tân ynteu un o’r athrawon!