Agorwyd yr ardd yn swyddogol gan Reolwr yr Orsaf, Kerry Hughes, a gynigiodd yn gyntaf y syniad o greu man awyr agored y gallai Diffoddwyr Tân a'r gymuned ei rannu. Yna gwahoddwyd y sawl oedd yno i gymryd rhan mewn plannu amrywiaeth o flodau, llwyni a pherlysiau yn y gwelyau uchel newydd eu hadeiladu.
Mae'r ardd wedi'i chynllunio i fod yn gwbl hygyrch ac mae'n cynnwys cafnau plannu uchel, delltwaith a thŷ gwydr, gan sicrhau bod pobl o bob oed a gallu yn gallu mwynhau a chyfrannu ato. Mae offer a chyfarpar ar gael ar y safle i unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan a defnyddio'r ardd.