24.12.2024

Gorsaf Aberdaugleddau yn mynd i ysbryd y Nadolig!

Ddydd Mercher, 18 Rhagfyr, fe wnaeth criw o Orsaf Dân Aberdaugleddau gynnal digwyddiad ’Christmas Carol’ gan wahodd y cyhoedd i ddod i weld Siôn Corn a chymryd rhan yn hwyl yr ŵyl!

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 18 Rhagfyr, fe wnaeth criw o Orsaf Dân Aberdaugleddau gynnal digwyddiad ’Christmas Carol’ gan wahodd y cyhoedd i ddod i weld Siôn Corn a chymryd rhan yn hwyl yr ŵyl!

Roedd nifer o wahanol weithgareddau drwy’r min nos gan gynnwys Helfa Coblyn gyda gwobr ar y diwedd, gorsaf grefftau Nadoligaidd, pêl-droed dyn eira, lluniaeth, cerddoriaeth Nadolig a Groto Siôn Corn ble roedd y plant yn cael anrheg gan Santa a’i goblynnod!

Uchafbwynt y noson oedd perfformiad gan gôr lleol - Côr Cymunedol Gelliswick a rhai o aelodau Criw Aberdaugleddau!

Roedd yn ddigwyddiad Nadoligaidd llawn hwyl ac yn llwyddiant ysgubol; fe gododd £255.38 dros the Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusen Brofedigaeth Sandy Bear  

Meddai Rheolwr y Criw Luke Jenkins:

“Er gwaetha’r tywydd fe ddaeth pobl Aberdaugleddau yn ôl eu harfer allan i gefnogi’r Orsaf Dân a helpu i’w gwneud yn noson gofiadwy a llwyddiannus.”



Fyddai’r noson ddim wedi bod yn bosibl heb help gan fusnesau lleol:

Cyngor Tref Aberdaugleddau
Bord Gron Aberdaugleddau
Cyfrinfa Seiri Rhyddion Aberdaugleddau
Tesco Aberdaugleddau
Lidl Aberdaugleddau

Fe hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran a chefnogi’r digwyddiad. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth yr holl griw yng Ngorsaf Dân Aberdaugleddau.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf