09.10.2025

Gorsaf Dân Gorseinon yn Croesawu Tîm Pêl-droed Merched dan 15

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd tîm pêl-droed merched dan 15 "Gower Galaxy" â Gorsaf Dân Gorseinon i gael cipolwg ar waith diffoddwr tân.

Gan Rachel Kestin



Yr wythnos diwethaf, ymwelodd tîm pêl-droed merched dan 15 "Gower Galaxy" â Gorsaf Dân Gorseinon i gael cipolwg ar waith diffoddwr tân.

Croesawodd y Rheolwr Gwylfa Darren Wilson y tîm i'r orsaf lle buon nhw’n trafod gwaith diffoddwr tân a'r amrywiaeth o wahanol gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.






Yna, arweiniodd y criw y merched trwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ymarfer cyfathrebu adeiladu tîm, rhedeg pibelli dŵr a sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol. Mi wnaeth y merched fwynhau ac ymroi’n llwyr i’r gweithgareddau!

Roedd y noson yn llwyddiant mawr, gyda rhai o'r tîm yn dweud bod yr ymweliad wedi eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub yn y dyfodol!

Erthygl Flaenorol