02.07.2024

Gorsaf Dân Trefyclo Taith Gerdded Elusennol Criw Llwybr Arfordirol

Ddydd Sadwrn, Mehefin 29, cymerodd criw Gorsaf Dân Trefyclo ran mewn taith gerdded elusennol ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, Mehefin 29, cymerodd criw Gorsaf Dân Trefyclo ran mewn taith gerdded elusennol ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Wedi gwisgo yn eu cit a’u hoffer diffodd tân, ac yn cario bwcedi casglu rhoddion, cerddodd aelodau’r criw 22 milltir o Orsaf Dân Machynlleth i Aberystwyth trwy Orsaf Borth – gan wneud dros 50,000 o gamau!

Aeth y criw ar y daith gerdded elusennol i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân - sy'n rhoi cefnogaeth gydol oes arbenigol i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y DU. Er mwyn sicrhau bod yr Elusen yn gallu gwneud hyn ar gyfer dros 5,000 o bobl y flwyddyn a thalu’r £9m sydd ei hangen ar gyfer gweithredu ei gwasanaethau cymorth, mae’n dibynnu ar roddion rheolaidd gan bersonél y gwasanaeth tân ac achub, ddoe a heddiw, yn ogystal â’r cyhoedd.

Gyda dros £550 wedi’i godi yn ystod y daith gerdded elusennol, ynghyd â rhoddion a dderbyniwyd trwy eu tudalen JustGiving, mae’r criw wedi codi dros £3,900 ar hyn o bryd. Cynhaliodd cerddwr cŵn lleol, ‘Paws a While’, daith gerdded gŵn noddedig i gynyddu eu harian.

Mae'r criw yn dal i dderbyn rhoddion trwy eu tudalen JustGiving a byddai unrhyw rodd - mawr neu fach - yn cael ei werthfawrogi'n fawr.





Personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a gymerodd ran yn y daith gerdded elusennol oedd:

Rheolwr Grŵp Phil Morris, Rheolwr Gwylfa Martin Neary, Rheolwr Criw Marty Jones, Rheolwr Criw Elliott Jones, Rheolwr Criw Aled Jones, Diffoddwr Tân Gary Evans, Diffoddwr Tân Rees Morris, Rheolwr Gwylfa John Tanner a Rheolwr Gorsaf Kerry Hughes. Cawsant eu cefnogi gan y Rheolwr Gwylfa wedi ymddeol Dai Price yn ogystal â ffrindiau a theulu.

Yn garedig iawn, rhoddwyd bwyd a lluniaeth i’w cynnal ar y ffordd gan fusnesau lleol. Bu Co-op Trefyclo, Costcutter Trefyclo, AJ Pugh Butchers, Caffi Little Black Sheep, Caffi Oriel Tower House, Siop Frechdanau Lorna, Lou's Bakes Treats a Radnor Hills i gyd yn garedig iawn yn rhoi lluniaeth ar gyfer y daith gerdded.

Mae Llwybr yr Arfordir yn 870 milltir o hyd ac mae Cymru yn un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd â llwybr arfordirol di-dor yn ymestyn ar hyd ei harfordir i gyd.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf