Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn parhau â'n cefnogaeth ymroddedig i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod trwy gefnogi White Ribbon UK.
White Ribbon UK yw’r brif elusen sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais yn erbyn menywod a merched.
Fel Gwasanaeth rydym wedi dangos ein cefnogaeth i roi terfyn ar yr holl drais gan ddynion yn erbyn menywod drwy gydnabod a chefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Gan ddechrau ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2024, bydd y Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn 16 diwrnod o weithredu gydag ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, y gallwch ei dilyn ar-lein trwy ein Facebook.
Rydym yn annog pawb, yn enwedig dynion a bechgyn, i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod. Gall pob dyn ymuno â'r tîm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched #DechrauGydaDynion.