Ffyrdd Mwy Diogel, Bywydau Mwy Diogel
Yn y DU, mae dros 40,000 o bobl yn dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn, gyda llai nag 1 o bob 10 yn goroesi - ond os rhoddir CPR a defnyddir diffibriliwr o fewn 3 i 5 munud i gwymp, gallai cyfraddau goroesi fod mor uchel â 70%.
Dywedodd Prif Arholwr Gyrru’r DVSA, Mark Winn: “Rhan o fod yn yrrwr diogel a chyfrifol yw gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng – sut i gamu i mewn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol sy’n achub bywydau.
“Mae dysgu CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr yn sgil syml iawn ac mae ychwanegu hyn at yr adnodd dysgu swyddogol yn ffordd wych i’r DVSA gefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth.”
Mae deunyddiau dysgu swyddogol eisoes wedi'u diweddaru i roi amser i yrwyr sy'n dysgu ymgyfarwyddo â'r cynnwys newydd. Mae hyn yn cynnwys Canllaw Gyrru Swyddogol y DVSA – y sgiliau hanfodol a Chanllaw Swyddogol DVSA i’r Prawf Theori ar gyfer Gyrwyr Ceir, gyda diweddariadau i gyhoeddiadau beiciau modur i ddilyn.
Arweiniwyd yr ymgyrch am y diweddariad hanfodol gan Gadeirydd Achub Bywyd Cymru, yr Athro Len Nokes, y bu farw ei ferch 24 oed, Claire, yn drasig yn 2017 o gymhlethdodau yn dilyn ataliad y galon. Dywedodd Len: “Pan gafodd Claire, fy merch, ataliad y galon, efallai y byddai rhywfaint o wybodaeth am CPR wedi gwneud gwahaniaeth.
“Dydw i ddim eisiau i unrhyw deulu arall fynd trwy’r profiad hwn.
“Mae pob un ohonom yn y bartneriaeth hon yn gobeithio, drwy wneud CPR a sut i ddefnyddio diffibriliwr yn rhan o’r prawf theori, y byddwn yn gallu cynyddu nifer y bobl sydd â’r ymwybyddiaeth hon o achub bywydau yn sylweddol.”