05.09.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn croesawu Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn newydd – Sgwad 02/25

Ddydd Iau, 4 Medi, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Graddio a Seremoni Cwblhau Hyfforddiant ar gyfer y grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Iau, 4 Medi, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Seremoni Graddio a Seremoni Cwblhau Hyfforddiant ar gyfer y grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Cynhaliwyd y seremoni, a agorwyd gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM, yng Nghanolfan Hyfforddi GTACGC Earlswood, a daeth teulu, ffrindiau, aelodau a swyddogion yr Awdurdod Tân ynghyd i ddathlu cyflawniad anhygoel yr 11 unigolyn.

Bu Sgwad 02/25, fel y'u gelwir, ar daith drawsnewidiol gyda'i gilydd wrth iddyn nhw gwblhau 14 wythnos o hyfforddiant trylwyr.



Dywedodd y Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Stuart Bate:

"O ddiwrnod cyntaf yr hyfforddiant, mae Sgwad 02/25 wedi dangos dewrder, disgyblaeth, a phenderfyniad i gynnal traddodiadau mwyaf urddasol y Gwasanaeth Tân.

Trwy gydol eu taith maent wedi wynebu cyfres o heriau anodd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Maent wedi dangos gwydnwch eithriadol, ac wedi croesawu gwerthoedd gwaith tîm, uniondeb ac anhunanoldeb sy'n diffinio ein proffesiwn.

Heddiw, wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu eu llwyddiannau, ni ddylem anghofio'r aberth y maent wedi'i wneud a'r ymroddiad y maent wedi'i ddangos. Maent wedi dewis llwybr sy'n gofyn am ddewrder, tosturi, ac ymdeimlad dwfn o ddyletswydd tuag at eraill. Mae gen i ymdeimlad enfawr o falchder ac edmygedd wrth feddwl am y siwrnai ryfeddol y mae'r graddedigion hyn wedi cychwyn arni dros yr 14 wythnos ddiwethaf. Llongyfarchiadau, raddedigion.”



Roedd y Seremoni yn cynnwys Gorymdaith y Recriwtiaid lle ymunodd yr Osgordd Baneri Seremonïol â nhw, Arolygiad o'r Recriwtiaid gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd John Davies a'r Pennaeth Cyflwyno Hyfforddiant, Rheolwr y Grŵp Stuart Bate. 

Cynhaliwyd sawl Arddangosfa Iard Ymarfer i ddangos yn llawn y sgiliau ymateb brys y mae pob aelod o Sgwad 02/25 wedi'u ddatblygu yn ystod eu hyfforddiant, ac yna cafwyd Cyflwyniad Tystysgrifau a Gwobrau.





Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas KFSM:

"Fe wnaethom ddathlu'r llwyddiannau rhyfeddol a wnaed gan garfan 02/25 sydd wedi cael pedair wythnos ar ddeg o hyfforddiant trwyadl a nodi pwynt arwyddocaol yn eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

"Fel rhan annatod o seilwaith ymateb brys Cymru, mae GTACGC yn enghraifft wych o broffesiynoldeb, parodrwydd ac ymroddiad diwyro i ddiogelwch y cyhoedd a bydd ein recriwtiaid newydd yn rhan hanfodol o gyflawni ein gwaith hanfodol i'n cymunedau ehangach."


Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Adran Cyflenwi Hyfforddiant sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflwyno cwrs hyfforddi o'r radd flaenaf i'n recriwtiaid newydd. Heb y sgiliau, y wybodaeth arbenigol a’r ymroddiad, ni fyddai hyn yn bosibl.”



Cyn bo hir bydd pob un sydd wedi graddio yn dechrau eu gyrfaoedd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn yn eu Gorsaf Dân ddynodedig.  Mae pawb yn GTACGC yn eu llongyfarch ac yn dymuno gyrfa hir a llwyddiannus i bob un ohonynt.

-----------

Tystysgrif Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn

Rhoddodd y Prif Swyddog Tân Thomas dystysgrif wedi’i fframio i bob Diffoddwr Tân Amser Cyflawn i gydnabod eu bod wedi cwblhau’r Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn 14 wythnos o hyd.






Cyflwyno Gwobr Arbennig Ffitrwydd Corfforol a Chlwb 300

Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu gan Dîm Ffitrwydd y Gwasanaeth ac yn cael ei chyflwyno i’r recriwt sydd wedi gwthio’i hun i’r eithaf yn gyson ac sydd wedi ymdrechu i wneud ei orau glas bob tro.

O Sgwad 02/25, cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Ffitrwydd Corfforol i Ben Thomas gan y Prif Swyddog Tân Thomas. Cyflwynwyd gwobr y Clwb 300 i James King, Ben Thomas Emma Lewis, Owen Bassette a Benjamin Mose gan y Prif Swyddog Tân Thomas.



Gwobr Recriwt y Recriwtiaid

Mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan y recriwtiaid eraill ar y cwrs.  Mae’n cael ei rhoi i'r recriwt sydd wedi ymdrechu orau yn bersonol ac wrth helpu eu cyd-recriwtiaid.  Mae hon yn wobr arwyddocaol gan ei bod yn rhoi sylw i unigolyn sy'n perfformio'n arbennig o dda.

Cyflwynwyd y wobr i Kirsty Davies gan Gadeirydd yr Awdurdod Tân, y Cynghorydd John Davies.



Y Wobr i’r Recriwt â’r Perfformiad Gorau

Rhoddir y Fwyell Arian i'r recriwt sy'n perfformio orau ar y cwrs ac mae’r sawl sy’n derbyn y wobr hon yn cael ei ddewis gan eu prif hyfforddwyr.  Bydd y recriwt sy'n perfformio orau wedi perfformio ar lefel uchel yn gyson ym mhob tasg drwy gydol y cwrs.  Mae gallu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, canlyniadau arholiadau, arweinyddiaeth a gweithio fel rhan o dîm i gyd yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar y recriwt sydd wedi perfformio orau.

Cyflwynwyd y wobr hon i Ian Scott gan y Prif Swyddog Tân Thomas.

Erthygl Flaenorol