Dywedodd yr Esgob Jones:
“Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.
Mae'r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio'i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef 'tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy' eto.
Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o'i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”
Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a chadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru:
“Rydym yn cydnabod bod cydweithio wrth gefnogi teuluoedd y mae trasiedi gyhoeddus wedi effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau llesiant a gwydnwch ein cymunedau.
Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau cyfunol i roi cymorth ystyrlon i'r rhai mewn angen yn ystod argyfwng a thu hwnt.”
Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis:
"Drwy lofnodi'r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu'r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill i sicrhau nad ydym byth yn anghofio am bersbectif teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig yn ystod yr argyfwng a'r drasiedi ond yn ystod yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd sy'n dilyn.
Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her wirioneddol yw ymgorffori'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant i sicrhau ei bod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i drasiedi gyhoeddus.
Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus wedi bod yn hollbwysig i'r cam pwysig ymlaen rydym yn ei gymryd heddiw."