11.10.2024

Gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Ennill Gwobr Rhagoriaeth ar y We

Mae gwefan newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ennill yn ddiweddar yn y categori 'Gwasanaeth Cyhoeddus Cymunedol' yng Ngwobrau Rhagoriaeth ar y We.

Gan Steffan John



Mae gwefan newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ennill yn ddiweddar yn y categori 'Gwasanaeth Cyhoeddus Cymunedol' yng Ngwobrau Rhagoriaeth ar y We.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth ar y We (Web Excellence) wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth ar y we a gosod safonau uchel trwy gydnabod creadigrwydd ac arloesedd digidol.  Dewisir enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth ar y We trwy broses werthuso fanwl, sy'n cael ei harwain gan arbenigwyr o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau asesiad teg o sawl maen prawf gan gynnwys creadigrwydd, ymarferoldeb, arloesedd ac effaith gyffredinol.

Cafodd gwefan GTACGC, a lansiwyd ddechrau Gorffennaf 2024, ei dylunio a'i hadeiladu gan Connect Internet Solutions, yn dilyn proses dendro gystadleuol.  Gyda phwyslais ar hygyrchedd a gwell profiad i ddefnyddwyr, bu misoedd o waith datblygu a phrofi ar  wefan GTACGC.

Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes GTACGC:

"Mae'r wobr hon yn cydnabod ein hymrwymiad i greu llwyfan sydd nid yn unig yn cymell pobl yn weledol ond sydd hefyd yn hynod weithredol, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch, gan ddarparu mecanwaith allweddol ar gyfer ymgysylltu â'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu." "Mae gweithio gyda Connect Internet Solutions wedi ein galluogi i ddatblygu gwefan a oedd nid yn unig yn bodloni ein gofynion ond hefyd yn sicrhau gwelliant sylweddol mewn nifer o feysydd lle'r oeddem yn gwybod ein bod yn cael ein niferoedd uchaf o ymwelwyr, a diolch i berthynas waith hynod effeithiol yr ydym wedi gallu creu gwefan o ansawdd mor uchel."

Aled Lewis - Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes



Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Connect Internet Solutions, Janet Symes:

"Rydym wrth ein bodd bod gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael ei chydnabod gan y Gwobrau Rhagoriaeth ar y We. Rydym yn falch iawn o'r wefan a'r holl waith caled a wnaethpwyd i’w chreu; roedd hon yn wir bartneriaeth rhwng cleient ac asiantaeth ac mae canlyniadau hynny'n dweud y cyfan. Llongyfarchiadau i'r holl dîm yn GTACGC."

Janet Symes - Rheolwr Gyfarwyddwr Connect Internet Solutions


Mae gan wefan newydd GTACGC gyfres o dechnoleg gynorthwyol ac offer wedi'u hymgorffori i wella ei hygyrchedd, sy'n cynnwys swyddogaeth testun-i-leferydd, sy'n galluogi defnyddwyr i gael testun ar y sgrin wedi’i ddarllen yn uchel.  Gall defnyddwyr hefyd newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau, nesáu heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin, gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais a mwy.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf