30.07.2025

Gwneud Gwahaniaeth: Diffoddwyr Tân Joey Stephens a Russ Buckley

Dysgwch fwy am sut mae'r Diffoddwyr Tân Joey Stevens a Ross Buckley yn cydbwyso eu swyddi llawn amser yn Landmarc Solutions wrth wasanaethu eu cymunedau lleol fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dibynnu ar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad i ddiogelu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gyda 75% o'r Gorsafoedd Tân wedi'u criwio'n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Yn ogystal ag ymrwymiad ac ymroddiad Diffoddwyr Tân Ar Alwad, mae'r Gwasanaeth yn dibynnu ar amrywiaeth o gyflogwyr sy'n caniatáu i Ddiffoddwyr Tân ar Alwad adael eu prif gyflogaeth i fynd i alwadau brys.

Un cyflogwr o'r fath yw Landmarc Solutions, sy'n gweithio i alluogi'r Lluoedd Arfog i hyfforddi'n ddiogel a chynnal gweithrediadau. 

Mae'r Diffoddwr Tân Joey Stevens, sydd wedi'i leoli yng Ngorsaf Dân Aber-craf, wedi gweithio yn Landmarc ers 18 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Gweinyddwr yn yr Ystafell Weithrediadau.  Tua dwy flynedd yn ôl, penderfynodd Joey ei fod eisiau neilltuo peth o'i amser rhydd i ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad gyda GTACGC.



Wrth siarad am ei rôl fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd Joey:

“Rwy’n gweithio patrwm sifftiau pedwar ymlaen, pedwar i ffwrdd, felly gwelais gyfle i wasanaethu fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yn fy amser rhydd.  Rydyn ni’n cario teclyn galw a gallwn gael ein galw i ddigwyddiadau ddydd neu nos i bopeth o danau a gwrthdrawiadau ar y ffordd i lifogydd, argyfyngau meddygol ac achub arbenigol.

Gall pobl fel fi wneud y math hwn o gyfraniad i'n cymuned, diolch i’r cymorth a'r gefnogaeth gan gyflogwyr fel Landmarc."



Chwarter Canrif o Wasanaeth

Mae'r diffoddwr tân Ross Buckley wedi gwasanaethu fel Diffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân Llanymddyfri ers 25 mlynedd, y rhan fwyaf o'r amser hwnnw ac yntau’n gweithio yn Landmarc fel Technegydd Cynnal a Chadw hefyd.

Fel Joey, mae Ross yn barod pan fydd ar ddyletswydd gyda theclyn galw ac mae’n ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.



“Gall y rôl hon olygu bod yn rhaid i ni ollwng popeth ar unrhyw adeg, felly mae cael cyflogwr hyblyg, sy’n deall, yn hanfodol i’r rôl. Mae Landmarc wedi fy nghefnogi'n gyson, hyd yn oed pan fydd digwyddiad cymhleth yn golygu na fyddaf yn dychwelyd i'r gwaith ar amser.  Mae'r math hwnnw o sicrwydd yn cymryd pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau'r rheini ohonom sydd yn y gwasanaeth ar alwad."

Mae Russ yn pwysleisio bod effaith y gefnogaeth hon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r unigolyn: "Mae cyflogwyr fel Landmarc yn galluogi'r Gwasanaeth Tân ac Achub i barhau i weithredu mewn cymunedau gwledig ac anghysbell.  Mae'r gefnogaeth honno nid yn unig yn ein helpu ni, fel gweithwyr, ond yn bwysicach fyth, y rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau brys pan fo’u hangen fwyaf." 




Cefnogi ein Pobl a'n Cymunedau

Mae Landmarc yn cydnabod y cyfraniad unigryw y mae Diffoddwyr Tân ar Alwad yn ei wneud i'w cymunedau ac i ddiogelwch y cyhoedd, trwy gynnig gwyliau di-dâl a hyblygrwydd yn y gweithle i weithwyr fel Joey a Russ, fel y gallant barhau â'u gwaith hanfodol, yn ystod oriau gwaith a thu hwnt. Mae Landmarc yn enghraifft wych o sut y gall cyflogwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol - nid yn unig i'w staff, ond i ddiogelwch a gwydnwch y gymuned ehangach.

Mae GTACGC bob amser yn ddiolchgar i'r holl Ddiffoddwyr Tân ar Alwad sy'n diogelu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu a'r cyflogwyr sy'n cynnig hyblygrwydd iddynt gyflawni eu dyletswyddau.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Nid yw diffodd tân yn debyg i unrhyw swydd arall: gall fod yn gyffrous, yn ddifyr ac yn annisgwyl.  Mae boddhad a pharch yn dod law yn llaw â darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad ac mae system argaeledd a bandio cyflog a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnig opsiynau mwy hyblyg i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad gydbwyso eu gwaith a'u bywydau personol.

Fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, byddwch chi'n ennill arian ar gyfer hyfforddiant, ymarferiadau a galwadau allan, ynghyd â ffi tâl cadw blynyddol.  Byddwch hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn ymateb i argyfwng ac yn cael mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol, a allai arwain at yrfa Diffodd Tân Amser Cyflawn, neu yrfa o fewn gwasanaeth brys arall.

Darganfyddwch fwy am ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad ar yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf