Nos Fercher, 12 Tachwedd 2025, cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn y Pencadlys yng Nghaerfyrddin. Mae’r gwobrau’n cydnabod personél y Gwasanaeth sydd wedi rhoi 30 a 40 mlynedd o wasanaeth i’r sefydliad.
Dathlwyd personél o Ranbarthau’r Gorllewin a'r De, a chyflwynwyd y gwobrau gan y Dirprwy Brif Swyddog Tân Iwan Cray.
Gwobrau 40 Mlynedd
Dechreuodd y seremoni gyda Rheolwr Grŵp Nick Rees yn cyflwyno’r gwobrau 40 mlynedd i bersonél.
Y cyntaf i gael ei gwobr oedd y Rheolwr Gwylfa Yvette Williams o Rheoli Tân ar y Cyd, ac yna’r Rheolwr Gwylfa Keith Jenkins o Orsaf Dân Hwlffordd, y Diffoddwr Tân Peter Lewis o Orsaf Dân Dinbych-y-pysgod, ac yn olaf Euros Edwards o Orsaf Dân Crymych.