01.12.2025

Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw Rhanbarth y Gogledd 2025

Nos Fercher, Tachwedd 19eg, cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yng Ngorsaf Dân Llandrindod i gydnabod personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Nos Fercher, Tachwedd 19eg, cynhaliwyd Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yng Ngorsaf Dân Llandrindod i gydnabod personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Wedi'i gyflwyno gan Brif Swyddog Tân Cynorthwyol GTACGC, Craig Flannery, a Phennaeth Rhanbarth y Gogledd GTACGC, y Rheolwr Grŵp Stephen Rowlands, roedd y noson yn gyfle arbennig i ddathlu teyrngarwch ac ymrwymiad personél GTACGC o bob rhan o Ranbarth y Gogledd y Gwasanaeth – Powys a Cheredigion.  Roedd y seremoni yn cydnabod ymdrechion a phroffesiynoldeb rhyfeddol staff y Gwasanaeth sydd wedi ymroi 30 a 40 mlynedd o wasanaeth i'w cymunedau yn eu tro.

Gwobrau 40 Mlynedd

Personél GTACGC a dderbyniodd eu gwobrau 40 mlynedd oedd:

Y Rheolwr Gwylfa David Gwalchmai o Orsaf Dân Llanfair Caereinion, y Rheolwr Gwylfa David Evans o Orsaf Dân Llanfyllin, y Rheolwr Gwylfa Nigel Perkins o Orsaf Dân Aberhonddu, y Rheolwr Gwylfa Bryan Davies o Orsaf Dân Talgarth, y Rheolwr Criw David Lloyd o Orsaf Dân Llanandras a'r Diffoddwr Tân Ar Alwad Brian Hamer o Orsaf Dân Llanidloes.

Gwobrau 30 Mlynedd

Personél GTACGC a dderbyniodd eu gwobrau 30 mlynedd oedd:

Y Rheolwr Gorsaf Robert Luke o Orsaf Dân y Drenewydd, y Rheolwr Gorsaf Neil Evans o Orsaf Dân Llandrindod, y Rheolwr Gorsaf David Evans o Orsaf Dân Aberhonddu, y Rheolwr Gorsaf Andrew Richards o Orsaf Dân y Drenewydd, y Rheolwr Gorsaf Michael Evison o Orsaf Dân y Drenewydd, y Rheolwr Gwylfa Brian Evans o Orsaf Dân Abercraf, y Rheolwr Gwylfa Stephen Daniel o Orsaf Dân Abercraf, y Rheolwr Gwylfa Geraint Hughes o Orsaf Dân Llandrindod, y Rheolwr Gwylfa Brendan Mcwhinnie o Orsaf Dân y Trallwng, y Rheolwr Gwylfa Kevin Williams o Orsaf Dân Llanfyllin, y Rheolwr Gwylfa Simon James o Orsaf Dân Llanfair-ym-Muallt, y Rheolwr Gwylfa Steven Amor MBE o Orsaf Dân Llanwrtyd, y Rheolwr Gwylfa Timothy Dicker o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, y Rheolwr Gwylfa Ifan Lewis o Orsaf Dân Tegaron, y Rheolwr Criw David Roberts o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, y Rheolwr Criw Stephen Ratcliffe o Orsaf Dân y Gelli Gandryll, y Rheolwr Criw Wayne Williams o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, y Rheolwr Criw David Christopher o Orsaf Dân Llanandras, y Rheolwr Criw Darren Leach o Orsaf Dân y Drenewydd, y Rheolwr Criw Mark Goodwin o Orsaf Dân y Trallwng, y Rheolwr Criw Anthony Holt o Orsaf Dân Llandrindod, y Diffoddwr Tân Ar Alwad Michael Price o Orsaf Dân Aberhonddu, y Diffoddwr Tân Ar Alwad Nigel Jones o Orsaf Dân Llanidloes, y Diffoddwr Tân Ar Alwad Robert Ellis o Orsaf Dân Llanfyllin, y Diffoddwr Tân Ar Alwad John Williams o Orsaf Dân Llanfyllin, y Diffoddwr Tân Ar Alwad Kerry Graham o Orsaf Dân Llanfair-ym-Muallt, y Diffoddwr Tân Ar Alwad David Bufton o Orsaf Dân Aberhonddu, y Diffoddwr Tân Gwirfoddol Peter Davies o Orsaf Dân y Borth a'r Diffoddwr Tân Gwirfoddol Philip Jones o Orsaf Dân y Borth.



Speaking at the ceremony, Assistant Chief Fire Officer Craig Flannery said:

“It is an honour to celebrate and acknowledge the remarkable achievements and dedication of our Service colleagues as they reach their milestone 30 and 40-years of long service.

Not only have they demonstrated loyalty and professionalism to MAWWFRS, but also to the communities they have protected for decades.”
























Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol