Roedd y digwyddiad yn annog arfer gorau a diogelwch diffoddwyr tân mewn pedwar categori gwahanol, gan gynnwys Rheoli Digwyddiadau, Gweithdrefnau ar Safle Tân, Rheoli Mynediad, a Gwisgo Offer Anadlu.
Bu aelodau o griwiau Gorsafoedd Tân Port Talbot, Arberth, Castell-nedd, Treforys a Llanelli, ynghyd â staff yr adran Cyfarpar Gweithredol a Sicrwydd, yn cystadlu yn erbyn Gwasanaethau Tân ac Achub o bob cwr o’r DU. Eleni, cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh.
Bu raid i bob tîm ymateb i sefyllfa lle'r oedd tân mewn eiddo, a rhoddwyd cyfanswm o 30 munud iddyn nhw ddiffodd y tân ac achub unrhyw bobl wedi’u hanafu.
Dyfarnwyd mai’r Rheolwr Gwylfa Norcross oedd y gorau o bawb yn y categori rheoli digwyddiadau, ac fe orffennodd y tîm cyfan gyda safon aur gyffredinol hefyd!
Llongyfarchiadau enfawr i bawb – dyma gamp anhygoel!