Yn ddiweddar, cymerodd nifer o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarfer hyfforddi achub o ddŵr yn Llanfair-ym-Muallt.
Roedd y sesiwn yn gyfle i Ddiffoddwyr Tân GTACGC efelychu sefyllfaoedd brys go iawn, gan ganolbwyntio ar achub o ddŵr yn llifo’n gylfym, lle gall cerrynt cryf ac amodau anrhagweladwy fod yn fygythiad sylweddol yn aml. Yn ystod yr ymarfer, gwisgodd criwiau offer achub dŵr arbenigol gan gynnwys gwisgoedd sych, helmedau a dyfeisiau arnofio personol, wrth iddynt ymarfer lleoli ac achub cleifion efelychiedig.
Yn ogystal ag offer amddiffynnol personol, cafodd criwiau hefyd y cyfle i ddefnyddio amrywiaeth o offer fel cychod, systemau rhaff, slediau ac ysgolion i gyrraedd cleifion yn ddiogel a'u tynnu o'r dŵr. Pwysleisiodd y sesiwn bwysigrwydd ymwybyddiaeth sefyllfaol, cyfathrebu ac addasu'n gyflym i amodau newidiol, yn ogystal â phrofi sgiliau unigol a chydlynu tîm.
Wrth i’r nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â llifogydd ac achub o ddŵr gynyddu dros y sawl flwyddyn ddiwethaf, mae’n bwysig bod GTACGC yn cynnal ymarferion hyfforddi fel yr un hyn yn rheolaidd fel bod criwiau bob amser yn barod ar gyfer argyfyngau go iawn.