06.06.2025

Hyfforddi i Ddefnyddio Dronau Chwilio ac Achub

Ym mis Mai, cynhaliodd Tîm Drôn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ynghyd ag aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru, ymarfer hyfforddi yn Aber Llwchwr yn Abertawe.

Gan Steffan John



Ym mis Mai, cynhaliodd Tîm Drôn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), ynghyd ag aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR), ymarfer hyfforddi yn Aber Llwchwr yn Abertawe.

Roedd y sesiwn hyfforddi'n caniatáu i aelodau efelychu senario chwilio afon a oedd yn cynnwys patrymau chwilio gwahanol ac yn rhoi'r cyfle i brofi galluoedd delweddu ac ymarfer cyfathrebu ag asedau awyr eraill.

Yn ystod yr ymarfer, roedd cyfle hefyd i drafod sut y gellir gwneud cais am gi chwilio Tîm USAR Cymru, Cooper, a’i ddefnyddio wrth chwilio am berson ar goll. Mae Cooper wedi'i hyfforddi'n arbennig i ganfod arogl dynol mewn amrywiaeth o amgylcheddau a gall chwilio ardaloedd a fyddai'n rhy anodd i dimau chwilio eu clirio.




Mae defnyddio dronau mewn digwyddiadau brys yn cynnig nifer o fanteision sylweddol i griwiau GTACGC a Thîm USAR Cymru, sy’n cynnwys:

  • Gwell diogelwch – gall dronau asesu sefyllfaoedd peryglus o'r awyr, gan leihau'r angen i bersonél y gwasanaethau brys fynd i mewn i amgylcheddau peryglus yn uniongyrchol. Mae hyn yn helpu i leihau'r risg i fywyd dynol yn ystod tanau, cwympiadau strwythurol ac argyfyngau eraill.
  • Gwell ymwybyddiaeth o’r sefyllfa – mae dronau’n darparu gwybodaeth ‘Ground Truth’ amser real, sy’n gwella’n fawr allu Rheolwyr Digwyddiad i lunio cynllun i ymdrin â digwyddiad.
  • Asesiad cyflym – mae dronau yn darparu golygfeydd awyr cyflym o leoliadau digwyddiadau, gan ganiatáu ar gyfer asesu sefyllfaol, gwneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau yn gyflymach.
  • Gwell hygyrchedd – gall dronau gyrraedd ardaloedd sy'n anodd neu'n amhosibl i bersonél y tir gael mynediad iddynt, megis adeiladau uchel neu strwythurau ansefydlog.
  • Delweddu thermol – gall dronau gyda chamerâu delweddu thermol ganfod ffynonellau gwres, monitro lledaeniad gwres a helpu i leoli cleifion, yn enwedig mewn dŵr.

Mae GTACGC yn ddiolchgar am gymorth ystafell reoli Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu i brofi gweithdrefnau cyfathrebu ar y cyd i sicrhau gofod awyr mwy diogel i bob asiantaeth.

Erthygl Flaenorol