Yn ddiweddar cymerodd y Rheolwr Gwylfa Steve Fuge o Orsaf Dân Castell-nedd ran mewn ymarferiad Hyfforddiant Mordwyo Sylfaenol ym Mharc Cenedlaethol y Cairngorms.
Rhwng 18 i 21 Mehefin, cymerodd y Rheolwr Gwylfa Fuge, sydd hefyd yn aelod o Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR) Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn amrywiaeth o sesiynau hyfforddi er mwyn dysgu mapio o bell, cyfeiriadu, triongli, defnyddio cwmpawd a mordwyo trwy fynyddoedd Ucheldir yr Alban.
Trwy gyfuniad o theori a sesiynau ymarferol, llwyddodd Steve i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth a fydd yn caniatáu iddo weithio gydag Arweinwyr Criw ISAR i fordwyo tir anghyfarwydd pan fyddan nhw’n cael eu hanfon dramor. Mae Llywodraeth y DU yn anfon Tîm ISAR y DU i gynorthwyo gyda gwaith chwilio ac achub mewn digwyddiadau dyngarol a thrychinebau unrhyw le yn y byd.
Ar ddiwedd yr ymarfer hyfforddi, roedd yn rhaid i bawb wneud ymarfer terfynol a gynhaliwyd fel pe baen nhw wedi cael eu hanfon i ddigwyddiad tramor. Rhoddodd hyn gyfle iddyn nhw ddefnyddio'r sgiliau yr oedden nhw wedi'u dysgu yn ystod sesiynau hyfforddi amrywiol yr wythnos.