Cynhaliodd Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Aberystwyth sesiwn hyfforddi ar beiriant ysgol drofwrdd ddydd Gwener, Ionawr 23ain, gan wneud defnydd llawn o iard yr orsaf i hogi eu sgiliau gweithredol hanfodol.
Daeth yr ymarfer â Diffoddwyr Tân Llawn Amser ac Ar Alwad ynghyd, gan gynnig cyfle i gryfhau gwaith tîm a sicrhau safonau gweithredol cyson ar draws yr orsaf. Fel rhan o'r hyfforddiant, roedd Diffoddwyr Tân yn gallu gwella a mireinio eu sgiliau a'u gweithdrefnau gweithredol, yn ogystal ag ymarfer sut i integreiddio'r peiriant ysgol drofwrdd (TL) ag injans tân eraill. Bu’r ymarfer hefyd yn gyfle i brofi cyfathrebiadau radio rhwng pob Diffoddwr Tân, gan gynnwys y rhai rhwng y Rheolwr Gwylfa ym mhodiwm rheoli’r peiriant a’r Diffoddwr Tân yn y cawell achub.
Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) dri pheiriant TL, wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Aberystwyth, Hwlffordd a Threforys.
Mae'r TL yn beiriant tân awyr arbenigol gydag uchder achub mwyaf o 32 metr. Mae ei ysgol a’i phlatfform telesgopig, sy’n cylchdroi 360 gradd, yn caniatáu i Ddiffoddwyr Tân ddarparu dŵr o uwchben, cyrraedd ac achub pobl sy’n sownd hyd at uchderau o tua 10-12 llawr a chael mantais uchel i arsylwi ac asesu digwyddiadau. Gall pibellau'r peiriant bwmpio hyd at 2,400 litr o ddŵr y funud.