Mae trigolion ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu hannog i gyfrannu dillad a thecstilau diangen drwy ddefnyddio biniau ailgylchu tecstilau Elusen y Diffoddwyr Tân sydd y tu allan i lawer o Orsafoedd Tân lleol.
Trwy ollwng eitemau diangen yn un o finiau tecstilau'r elusen, mae rhoddion yn helpu i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân ac yn rhoi ail fywyd i ddillad ail-law yn y fargen.
Y llynedd, helpodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i Elusen y Diffoddwyr Tân godi cyfanswm o £23,852 drwy roddion a wnaed drwy finiau tecstilau yn unig – sy'n cyfateb i 212,689kg o decstilau wedi eu cyfrannu.
Daeth Gorsaf Dân Glyn-nedd yn 10fed o blith pawb ar fwrdd sgorio Elusen y Diffoddwyr Tân, gan gasglu’r swm clodwiw o 2,655kg o roddion.
Eleni, mae'r Gwasanaeth yn falch o gefnogi ymgyrch #BagItBankIt yr elusen, sy'n annog mwy o bobl i ddefnyddio ein biniau ailgylchu tecstilau i gael gwared â dillad a thecstilau diangen mewn ffordd gyfrifol a chefnogi achos hollbwysig yr un pryd.
Mae rhoi yn hawdd:
- Rhowch eich dillad a’ch tecstilau mewn bag
- Dewch o hyd i'ch bin tecstilau Elusen y Diffoddwyr Tân agosaf
- Gollyngwch eich cyfraniad yno
I ddod o hyd i'ch bin ailgylchu tecstilau agosaf, ewch i 👉 Map Banciau Ailgylchu
Mae pob rhodd yn helpu i wneud gwahaniaeth!