Ym myd y Gwasanaethau Brys, lle mae pwysau cyson, mae caffael effeithiol yn hanfodol i sicrhau parhad gweithredol a sicrhau gwerth i'n cymunedau.
Yn ddiweddar, cafodd ein Pennaeth Caffael, Helen Rees, gyfweliad gyda The Procurement Ledger lle rhannodd daith ysbrydoledig ei gyrfa a sut mae hi wedi adeiladu tîm caffael sy'n perfformio'n dda yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'n tynnu sylw at ymroddiad a sgiliau ei thîm sydd wedi arwain at lawer o gyflawniadau sylweddol o ran rhagoriaeth caffael. Mae hi hefyd yn datgelu sut maen nhw'n parhau i addasu i gwrdd â heriau tirwedd sydd yn newid o hyd.
Mae'r pynciau y mae'n eu trafod yn y cyfweliad yn ymdrin â chynaliadwyedd, rheoli risg a chydnerthedd, perthynas gyda chyflenwyr a chanfod ffynonellau moesegol, trawsnewid digidol, rheoli costau ac effeithlonrwydd, heriau yn y sector cyhoeddus, tueddiadau'r dyfodol, ac arweinyddiaeth a datblygu tîm.
Mae'n gyfweliad hynod ddiddorol a manwl, ac os hoffech ddarllen y cyfweliad llawn, ewch i'w gwefan.