17.06.2025

Parêd Cwblhau Hyfforddiant Cadetiaid Aber-craf

Ddydd Llyn, 16 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Aber-craf i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Gan Rachel Kestin



Ddydd Llyn, 16 Mehefin cynhaliwyd Parêd Cwblhau Hyfforddiant yng Ngorsaf Dân Aber-craf i ddathlu llwyddiannau’r grŵp diweddaraf o Gadetiaid Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Mae’r Cadetiaid Tân yn sefydliad ieuenctid cenedlaethol mewn lifrai sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ac sy'n cael ei redeg gan Wasanaethau Tân ac Achub unigol ledled y DU.

Nod y Rhaglen Cadetiaid Tân yw creu cymunedau mwy diogel trwy ddatblygu gwybodaeth pobl ifanc am y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r sgiliau cysylltiedig. Mae’n helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw'n ddiogel rhag tân mewn amgylchedd hwyliog a diogel.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae'r bobl ifanc ymroddedig hyn wedi dysgu ystod eang o sgiliau a thechnegau gwerthfawr trwy hyfforddiant ar faes ymarfer yr Orsaf Dân ac addysg yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r Cadetiaid wedi ennill cymhwyster Cadetiaid Tân a chyflwynwyd tystysgrif cyflawniad iddynt gan y Rheolwr Gorsaf Mark Ayling.

 

Dywedodd Karen Mayze, y Cydgysylltydd Cadetiaid Tân: 

" Roedd dosbarth Cadetiaid Tân Aber-craf 2025 yn llawn balchder wrth iddynt ddathlu cwblhau eu hyfforddiant gerbron eu teuluoedd a'r gymuned leol. Maent wedi dangos ymroddiad, gwaith tîm, a datblygiad anhygoel trwy gydol eu hamser ar y rhaglen i gadetiaid. Maent yn gadael y rhaglen yn unigolion ifanc hyderus, galluog, llawn ysbrydoliaeth. Llongyfarchiadau i chi i gyd."








Gwnewch gais i ddod yn un o’r Cadetiaid Tân Heddiw!

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) bellach yn recriwtio Cadetiaid Tân mewn Gorsafoedd Tân ar draws ardal y Gwasanaeth.

Mae'r rhaglen Cadetiaid Tân yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Bydd y Cadetiaid hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau bywyd pwysig a fydd yn ysbrydoli dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.

Ydych chi rhwng 13 ac 16 oed ac yn barod am her newydd — neu ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai?
Mae ein cynllun Cadetiaid Tân yn ffordd berffaith o ddatblygu sgiliau newydd cyffrous, magu hyder, a chael golwg unigryw ac ymarferol ar fywyd yn y gwasanaethau brys!

Am ragor o wybodaeth ac i ddysgu sut i wneud cais, ewch i - Cadetiaid Tân

Erthygl Flaenorol