09.05.2025

Personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Mynychu Garddwest Brenhinol

Ddydd Mercher, Mai 7fed, mynychodd aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y cyntaf o Arddwestau Brenhinol eleni ym Mhalas Buckingham.

Gan Steffan John



Ddydd Mercher, Mai 7fed, mynychodd aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK-ISAR) o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y cyntaf o Arddwestau Brenhinol eleni ym Mhalas Buckingham.

Wedi'i gynnal gan Eu Mawrhydi y Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla, ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol, mae’r Garddwestau Brenhinol yn gyfle i aelodau'r Teulu Brenhinol gwrdd a siarad â gwesteion sydd i gyd wedi cael effaith gadarnhaol yn eu cymuned.

Gwahoddwyd y Rheolwr Grŵp Steven Davies, y Rheolwr Gwylfa Stephen Fuge a'r Diffoddwr Tân Derek Lewis i Balas Buckingham i gydnabod eu bod wedi'u hanfon i gynorthwyo gyda'r ymdrechion chwilio ac achub yn dilyn y daeargryn dinistriol a darodd Dalaith Al Haouz ym Moroco ym 2023.  Cafodd pedwar aelod o bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hanfon i Foroco yn 2023, gyda’r Rheolwr Gwylfa Kevin Morgan yn mynychu Garddwest Frenhinol arall yn ddiweddarach y mis hwn.



Wrth fynychu’r Arddwest Frenhinol, dywedodd y Rheolwr Grŵp Steven Davies:

“Mae’n anrhydedd mawr cael ein cydnabod am y rhan y mae GTACGC wedi’i chwarae fel rhan o ymateb y DU i drychinebau dramor.

Er mai dim ond nifer fach o bersonél GTACGC a ddefnyddiwyd i ddarparu gallu chwilio ac achub a chefnogi ymdrechion dyngarol, ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac ymdrechion ein Tîm UK-ISAR ehangach.”



Mae UK-ISAR yn rhan o Waith Gwydnwch Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) ac mae wrth law’n barhaol i ymgynnull a chynorthwyo pan ofynnir amdano gan wledydd yr effeithir arnynt gan drychinebau.  

Mae’r Tîm UK-ISAR yn ymateb yn bennaf i argyfyngau chwilio ac achub trefol dramor ar ran Llywodraeth y DU.


Erthygl Flaenorol