Mae Prif Swyddog Tân (PST) Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi canmol ymdrechion eithriadol ei staff yn wyneb nifer o danau glaswellt a ddigwyddodd yn sgil y tywydd sych diweddar.
Mae PST Roger Thomas KFSM wedi canmol gwytnwch, ymroddiad, a chydweithrediad aelodau criw’r ochr weithredol ynghyd â gweithredwyr y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd (JFC) dan amodau heriol. Dros y pythefnos diwethaf, mae criwiau ar draws ardal ymateb y Gwasanaeth wedi ymateb i dros 250 o danau glaswellt.
Nid diffoddwyr tân ar y rheng flaen oedd yr unig rai i deimlo’r pwysau anarferol hwn, a bu gweithredwyr y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd, sef y gwasanaeth sy’n cael ei rannu rhwng GTACGC a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn brysur iawn hefyd. Yn ystod y pythefnos dan sylw, cafodd gweithredwyr y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd nifer syfrdanol o alwadau, a bu un cyfnod o 24 awr pan gafwyd dros 1,000 o alwadau.